Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

[F129AGweithio gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 68 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3), caiff yr Ombwdsmon a’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater,

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.]