xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

29IndemnioLL+C

(1)Mae unrhyw swm sy’n daladwy gan berson sydd wedi ei indemnio o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd am dor-dyletswydd i’w godi ar a’i dalu o Gronfa Gyfunol Cymru.

(2)Rhaid i’r atebolrwydd beidio â bod i berson arall sydd wedi ei indemnio.

(3)Mae’r canlynol yn bersonau wedi eu hindemnio—

(a)Archwilydd Cyffredinol, neu gyn-Archwilydd, a benodwyd o dan y Ddeddf hon;

(b)SAC;

(c)cyn-aelod neu aelod presennol o SAC;

(d)cyn-gyflogai neu gyflogai presennol i SAC;

(e)person sy’n darparu, neu sydd wedi darparu, gwasanaethau i’r Archwilydd Cyffredinol neu i SAC o dan drefniadau a wnaed gan SAC.

(4)Ystyr tor-dyletswydd at ddibenion is-adran (1) yw tor-dyletswydd (p’un ai o dan gontract neu gytundeb neu fel arall, a ph’un ai oherwydd gweithred neu anweithred) yr aed iddi gan berson sydd wedi ei indemnio wrth arfer swyddogaethau sydd i’w harfer gan y person hwnnw yn unol â darpariaeth o ddeddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3A. 29(3)(a)(d)(e) mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)