RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

29Indemnio

(1)

Mae unrhyw swm sy’n daladwy gan berson sydd wedi ei indemnio o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd am dor-dyletswydd i’w godi ar a’i dalu o Gronfa Gyfunol Cymru.

(2)

Rhaid i’r atebolrwydd beidio â bod i berson arall sydd wedi ei indemnio.

(3)

Mae’r canlynol yn bersonau wedi eu hindemnio—

(a)

Archwilydd Cyffredinol, neu gyn-Archwilydd, a benodwyd o dan y Ddeddf hon;

(b)

SAC;

(c)

cyn-aelod neu aelod presennol o SAC;

(d)

cyn-gyflogai neu gyflogai presennol i SAC;

(e)

person sy’n darparu, neu sydd wedi darparu, gwasanaethau i’r Archwilydd Cyffredinol neu i SAC o dan drefniadau a wnaed gan SAC.

(4)

Ystyr tor-dyletswydd at ddibenion is-adran (1) yw tor-dyletswydd (p’un ai o dan gontract neu gytundeb neu fel arall, a ph’un ai oherwydd gweithred neu anweithred) yr aed iddi gan berson sydd wedi ei indemnio wrth arfer swyddogaethau sydd i’w harfer gan y person hwnnw yn unol â darpariaeth o ddeddfiad.