(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC baratoi cynllun blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi’r canlynol—
(a)rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol;
(b)rhaglen waith SAC;
(c)yr adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, i SAC;
(d)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol;
(e)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen SAC;
(f)yr uchafswm, allan o’r o adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, y rhagwelir y bydd SAC yn dyrannu i’r Archwilydd Cyffredinol at y diben o ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol.
(3)Yn y Bennod hon—
ystyr “rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol” yw blaenoriaethau’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau;
ystyr “rhaglen waith SAC” yw blaenoriaethau SAC ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.