Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

21Darparu adnoddau ar gyfer swyddogaethau’r Archwilydd CyffredinolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i SAC ddarparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol, fel sy’n ofynnol gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(2)Yn benodol, mae SAC yn gyfrifol am—

(a)cyflogi staff i gynorthwyo arfer y swyddogaethau hynny;

(b)sicrhau gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion y swyddogaethau hynny;

(c)dal eiddo at ddibenion y swyddogaethau hynny;

(d)dal dogfennau neu wybodaeth a gaffaelwyd neu a gynhyrchwyd yn ystod arfer y swyddogaethau, neu fel arall at ddibenion y swyddogaethau hynny (gweler paragraff 4(2) o Atodlen 2);

(e)cadw cofnodion mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 21 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)