xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 2LL+CY BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC

Incwm a gwariantLL+C

20GwariantLL+C

(1)Am bob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wneud y canlynol ar y cyd—

(a)darparu amcangyfrif o incwm a gwariant SAC, a

(b)gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Rhaid i bob amcangyfrif ymdrin (ymhlith pethau eraill) â’r adnoddau sy’n ofynnol at ddibenion adran 21 ( adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol).

(3)Rhaid i bob amcangyfrif gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymdrin â hi.

(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw newid i’r amcangyfrif y mae’n ei ystyried yn briodol (yn ddarostyngedig i is-adran (5)).

(5)Ni chaniateir gwneud newid o dan is-adran (4) heb—

(a)ymgynghori â SAC a’r Archwilydd Cyffredinol, a

(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y naill neu’r llall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 20 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(k)

I3A. 20 mewn grym ar 1.4.2014 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, rheoliad. 3(1)