RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL
PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC
Incwm a gwariant
20Gwariant
(1)
Am bob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wneud y canlynol ar y cyd—
(a)
darparu amcangyfrif o incwm a gwariant SAC, a
(b)
gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)
Rhaid i bob amcangyfrif ymdrin (ymhlith pethau eraill) â’r adnoddau sy’n ofynnol at ddibenion adran 21 ( adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol).
(3)
Rhaid i bob amcangyfrif gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymdrin â hi.
(4)
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw newid i’r amcangyfrif y mae’n ei ystyried yn briodol (yn ddarostyngedig i is-adran (5)).
(5)
Ni chaniateir gwneud newid o dan is-adran (4) heb—
(a)
ymgynghori â SAC a’r Archwilydd Cyffredinol, a
(b)
rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y naill neu’r llall.