IndemnioLL+C
13(1)Mae’r rhwymedigaethau sydd wedi eu cwmpasu gan adran 29 yn cynnwys—
(a)rhwymedigaethau sy’n codi cyn i’r adran honno ddod i rym, a
(b)rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred a ddigwyddodd cyn i’r adran honno ddod i rym.
(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan—
(a)daw swm yn dyladwy gan gyn-Archwilydd Cyffredinol a benodwyd cyn i adran 2 ddod i rym, a
(b)byddai’r swm hwnnw wedi ei godi ar Gronfa Gyfunol Cymru o dan baragraff 9(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 cyn i’r paragraff hwnnw gael ei ddiddymu gan y Ddeddf hon.
(3)Mae paragraff 9(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn parhau i gael effaith o ran y person hwnnw a’r swm hwnnw fel pe na bai’r diddymiad wedi dod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(w)(ii)