ATODLEN 2LL+CY berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

RHAN 2LL+CADRODDIADAU A DOGFENNAU

AdroddiadauLL+C

3(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad blynyddol, ar y cyd, ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—

(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;

(b)y graddau y cyflawnwyd y blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.

(3)O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC lunio hefyd, ar y cyd, adroddiad ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC (“adroddiad interim”).

(4)Rhaid i adroddiad interim gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—

(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;

(b)y graddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.

(5)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC baratoi adroddiad interim ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn ariannol.

(6)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC ar y cyd—

(a)gosod yr adroddiad blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol;

(b)gosod adroddiadau interim gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyddiadau i’w pennu o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad.

Dogfennau a gwybodaethLL+C

4(1)Caniateir darparu unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae’n ofynnol i berson ei darparu i’r Archwilydd Cyffredinol, neu y caniateir ei darparu iddo, i SAC (naill ai gan y person hwnnw neu gan yr Archwilydd Cyffredinol).

(2)At ddibenion adran 3(2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (neu unrhyw reoliadau sy’n disodli’r rheoliadau hynny), mae unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy’n cael ei dal gan SAC fel y crybwyllir yn adran 21(2)(d) o’r Ddeddf hon i’w thrin fel petai’r ddogfen neu’r wybodaeth yn cael ei dal gan SAC ar ei rhan ei hun.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)