ATODLEN 2Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC
RHAN 2ADRODDIADAU A DOGFENNAU
I1I33Adroddiadau
1
Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad blynyddol, ar y cyd, ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC yn ystod y flwyddyn.
2
Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—
a
y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;
b
y graddau y cyflawnwyd y blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.
3
O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC lunio hefyd, ar y cyd, adroddiad ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC (“adroddiad interim”).
4
Rhaid i adroddiad interim gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—
a
y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;
b
y graddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.
5
Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC baratoi adroddiad interim ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn ariannol.
6
Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC ar y cyd—
a
gosod yr adroddiad blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol;
b
gosod adroddiadau interim gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyddiadau i’w pennu o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad.
I2I44Dogfennau a gwybodaeth
1
Caniateir darparu unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae’n ofynnol i berson ei darparu i’r Archwilydd Cyffredinol, neu y caniateir ei darparu iddo, i SAC (naill ai gan y person hwnnw neu gan yr Archwilydd Cyffredinol).
2
At ddibenion adran 3(2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (neu unrhyw reoliadau sy’n disodli’r rheoliadau hynny), mae unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy’n cael ei dal gan SAC fel y crybwyllir yn adran 21(2)(d) o’r Ddeddf hon i’w thrin fel petai’r ddogfen neu’r wybodaeth yn cael ei dal gan SAC ar ei rhan ei hun.