ATODLEN 2Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

RHAN 3PERSON ARALL, DROS DRO, YN ARFER SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

I1I27

Mae swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

swyddogaethau fel prif weithredwr SAC (gweler adran 16);

b

os yn berthnasol, swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu SAC (gweler paragraff 33(1) o Ran 8 o Atodlen 1);

c

y pŵer i ddirprwyo o dan adran 18.