ATODLEN 2Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

RHAN 3PERSON ARALL, DROS DRO, YN ARFER SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

6

Ni chaniateir gwneud dynodiad dros dro ond o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

a

bod swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn wag,

b

nad yw’r Archwilydd Cyffredinol yn fodlon cyflawni swyddogaethau’r swydd,

c

bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod yr Archwilydd Cyffredinol yn methu â chyflawni swyddogaethau’r swydd, neu

d

bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod seiliau i ddiswyddo’r Archwilydd Cyffredinol oherwydd camymddygiad.