xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4(1)Caniateir darparu unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae’n ofynnol i berson ei darparu i’r Archwilydd Cyffredinol, neu y caniateir ei darparu iddo, i SAC (naill ai gan y person hwnnw neu gan yr Archwilydd Cyffredinol).
(2)At ddibenion adran 3(2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (neu unrhyw reoliadau sy’n disodli’r rheoliadau hynny), mae unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy’n cael ei dal gan SAC fel y crybwyllir yn adran 21(2)(d) o’r Ddeddf hon i’w thrin fel petai’r ddogfen neu’r wybodaeth yn cael ei dal gan SAC ar ei rhan ei hun.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)