ATODLEN 2Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

RHAN 1COD YMARFER

Paratoi a chymeradwyo etc

1

(1)

Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol baratoi cod ymarfer ar y cyd sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.

(2)

Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio adlewyrchu’r egwyddor a nodir yn adran 8(1) a (2).

(3)

Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol adolygu’r cod ar y cyd yn rheolaidd a’i ddiwygio fel y bo’n briodol.

(4)

Rhaid i’r cod (gan gynnwys unrhyw ddiwygiad) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)

At y diben hwn, rhaid i gadeirydd SAC a’r Archwilydd Cyffredinol osod y cod (neu’r diwygiad) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(6)

Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol ill dau gydymffurfio â chod sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(7)

Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol drefnu i god a gymeradwywyd gael ei gyhoeddi.