xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(cyflwynwyd gan adran 13(2))

ATODLEN 1LL+CYMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 1LL+CAELODAETH A STATWS

AelodaethLL+C

1(1)Mae SAC i gael 9 aelod.

(2)Dyma hwy—

(a)5 person nad ydynt yn gyflogeion i SAC (“aelodau anweithredol”) (gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon),

(b)yr Archwilydd Cyffredinol (gweler Rhan 3 o’r Atodlen hon), ac

(c)3 chyflogai i SAC (“yr aelodau sy’n gyflogeion”) (gweler Rhannau 4 a 5 o’r Atodlen hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(i)

I3Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeionLL+C

2(1)Mae aelodau SAC (ar wahân i’r Archwilydd Cyffredinol) i’w penodi yn unol â darpariaethau’r Atodlen hon.

(2)Rhaid gwneud pob penodiad ar sail teilyngdod.

(3)Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

(4)Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I5Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(ii)

I6Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

StatwsLL+C

3(1)Nid yw SAC nac unrhyw un o’i haelodau i’w hystyried neu ei ystyried—

(a)yn was neu’n asiant i’r Goron, na

(b)yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Ond ystyrir bod aelodau SAC yn weision y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

(3)Nid yw eiddo SAC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron neu’n eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i’r Archwilydd Cyffredinol (ac ar gyfer darpariaethau ynglŷn â statws yr Archwilydd Cyffredinol, gweler adran 6).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I8Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(iii)

I9Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

RHAN 2LL+CAELODAU ANWEITHREDOL

Penodi aelodau anweithredolLL+C

4(1)Mae aelodau anweithredol i’w penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Rhaid i benodiadau a wneir o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud ar gasgliadau cystadleuaeth deg ac agored.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I11Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(iv)

Penodi cadeirydd ar SACLL+C

5(1)Mae cadeirydd ar SAC i’w benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o blith yr aelodau anweithredol.

(2)Ond cyn penodi’r cadeirydd rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn penodiad o dan y paragraff hwn yn unol â’r weithdrefn sy’n ofynnol ar gyfer y penodiad gwreiddiol.

(4)Mae estyniad i’r penodiad yn cyfrif fel penodiad ar wahân at ddibenion paragraffau 6 i 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I13Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(v)

Cyfnod penodi ac ailbenodiLL+C

6(1)Rhaid i benodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fod am gyfnod o hyd at 4 blynedd a dim mwy na hynny.

(2)Ni chaniateir penodi person o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fwy na dwywaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I15Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(vi)

Trefniadau talu cydnabyddiaethLL+C

7(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas â’r person sy’n gadeirydd SAC (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 9).

(2)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’u talu ohoni.

(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas ag unrhyw aelod anweithredol arall.

(5)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (4) yn cael eu talu gan SAC.

(6)Caniateir i drefniadau talu cydnabyddiaeth o dan y paragraff hwn—

(a)darparu ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid, ond nid ar gyfer pensiwn, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(7)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I17Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(vii)

Telerau penodi eraillLL+C

8(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon (yn ddarostyngedig i baragraff 9).

(2)Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—

(a)y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol)—

(i)y caiff aelod anweithredol eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(ii)y caiff cadeirydd SAC eu dal tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd, a

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad)—

(i)y caiff aelod anweithredol fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(ii)y caiff cadeirydd SAC fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd.

(3)Ond dim ond tra bod person yn aelod anweithredol, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I19Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(viii)

YmgynghoriLL+C

9(1)Cyn gwneud unrhyw drefniadau o dan baragraff 7 neu benderfyniad o dan baragraff 8, rhaid ymgynghori â pherson priodol sydd â goruchwyliaeth dros benodiadau cyhoeddus.

(2)Mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan baragraff 7(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I21Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(ix)

Dod â phenodiadau i benLL+C

10(1)Caiff y person sy’n gadeirydd ar SAC ymddiswyddo o’i swydd fel cadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Daw penodiad y person sy’n ymddiswyddo i ben, yn unol ag is-baragraffau (1) neu (2), pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I23Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(x)

11(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

(2)Os yw’r aelod anweithredol y daw a’i benodiad i ben o dan is-baragraff (1) yn gadeirydd ar SAC, mae penodiad y person hwnnw fel cadeirydd hefyd yn dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I25Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(x)

12(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol fel cadeirydd SAC i ben.

(2)Ond cyn dod â phenodiad i ben rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â’r penodiad i ben os yw’r person sy’n gadeirydd ar SAC—

(a)wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(b)fel arall yn anfodlon cyflawni swyddogaethau bod yn gadeirydd SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I27Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(x)

RHAN 3LL+CYR ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd CyffredinolLL+C

13(1)Caiff SAC wneud darpariaeth i daliadau ychwanegol gael eu gwneud i’r Archwilydd Cyffredinol drwy lwfansau a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan yr Archwilydd Cyffredinol yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC a phrif weithredwr arni.

(2)Caniateir i daliadau gael eu gwneud o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at y tâl cydnabyddiaeth sy’n daladwy i’r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 7.

(3)Mae symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) i’w talu gan SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I29Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xi)

RHAN 4LL+CAELODAU SY’N GYFLOGEION

PenodiLL+C

14Mae’r aelodau sy’n gyflogeion i gynnwys-

(a)person a benodir yn unol â pharagraff 15 (“yr aelod a benodir”), a

(b)dau berson a benodir yn unol â pharagraff 16 (“yr aelodau etholedig”).

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I31Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Yr aelod a benodirLL+C

15(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person i’r aelodau anweithredol i’w benodi o dan y paragraff hwn.

(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol—

(a)penodi’r person hwnnw, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person arall (os felly bydd yr is-baragraff hwn yn gymwys dro ar ôl tro hyd nes bod rhywun wedi ei benodi’n aelod).

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I33Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Yr aelodau etholedigLL+C

16(1)Rhaid i SAC gynnal pleidlais o’i staff at ddiben penodi person neu bersonau, yn ôl y digwydd, o dan y paragraff hwn.

(2)Mae’r aelodau etholedig i’w penodi gan yr aelodau anweithredol yn unol â chanlyniad y bleidlais.

(3)Mae penodiad a wneir o dan y paragraff hwn i’w drin fel penodiad ar sail teilyngdod at ddibenion paragraff 2(2) (penodi aelodau SAC ar sail teilyngdod).

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I35Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Telerau penodiLL+C

17(1)Bydd telerau penodi yr aelodau sy’n gyflogeion yn cael eu pennu gan yr aelodau anweithredol.

(2)Caiff y telerau gynnwys trefniadau talu cydnabyddiaeth a all—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(3)Ni chaiff y trefniadau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog nac ychwaith, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), ar gyfer pensiwn.

(4)Bydd y symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (2) yn cael eu talu gan SAC.

(5)Os yw aelod sy’n gyflogai (“A”) yn cyfranogi o gynllun pensiwn o dan delerau cyflogaeth A gyda SAC, rhaid i’r trefniadau talu cydnabyddiaeth (heb effeithio ar barhad y gyflogaeth honno) wneud darpariaethau sy’n sicrhau bod gwasanaeth A fel aelod sy’n gyflogai i’w drin, at ddibenion y cynllun, fel petai’n wasanaeth fel cyflogai i SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I37Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Telerau penodi eraillLL+C

18(1)Caiff yr aelodau anweithredol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad aelod sy’n gyflogai.

(2)Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—

(a)y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol) y caiff yr aelod sy’n gyflogai eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad) y caiff yr aelod sy’n gyflogai fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod.

(3)Ond dim ond tra bod person yn aelod sy’n gyflogai, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod sy’n gyflogai, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I39Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Dod â phenodiad i benLL+C

19Mae penodiad aelod sy’n gyflogai yn dod i ben—

(a)os yw’r telerau penodi yn darparu ei fod yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)beth bynnag yw’r sefyllfa, pan fo’r aelod yn peidio â bod yn gyflogai i SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I41Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

20(1)Caiff aelod sy’n gyflogai ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.

(2)Bydd y penodiad yn dod i ben pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn gan yr aelodau anweithredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I43Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

21Caiff yr aelodau anweithredol ddod â phenodiad aelod sy’n gyflogai i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I45Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

RHAN 5LL+CCYFLOGEION

PenodiLL+C

22(1)Caiff SAC gyflogi staff.

(2)Ni all person gael ei benodi yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

(3)Bydd person yn peidio â bod yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

(4)Bydd staff SAC yn cael eu cyflogi ar y telerau hynny y caniateir i SAC eu penderfynu.

(5)Ni chaiff person sy’n gyflogai i SAC ddal unrhyw swydd y caniateir penodi person iddi, argymell person ar ei chyfer neu enwebu person ar ei chyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I47Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

StatwsLL+C

23Nid yw aelod o staff SAC i’w ystyried—

(a)yn was neu’n asiant i’r Goron, neu

(b)yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I49Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

24Ond ystyrir bod aelod o staff SAC yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I51Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Trefniadau talu cydnabyddiaethLL+C

25(1)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i gyflogeion fel y darperir ar ei gyfer gan eu telerau penodi, neu o dan y telerau hynny.

(2)Rhaid i SAC dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

(a)darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn gyflogai i SAC neu sydd wedi peidio â bod yn gyflogai iddi, a

(b)y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, y rhoddion ariannol hynny neu’r buddion eraill hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I53Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

RHAN 6LL+CANGHYMHWYSO FEL AELOD O SAC NEU GYFLOGAI IDDI

26(1)Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC neu yn gyflogai iddi os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).LL+C

(2)Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC neu yn gyflogai iddi os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o SAC neu’n gyflogai iddi os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, neu ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;

(d)yn Aelod o Senedd yr Alban; neu

(e)yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon.

(4)Mae is-baragraff (3)(b) i’w anwybyddu yn achos yr Archwilydd Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 1 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I55Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xii)

I56Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

RHAN 7LL+CRHEOLAU GWEITHDREFNOL

CyffredinolLL+C

27Rhaid i SAC wneud rheolau at ddibenion rheoleiddio gweithdrefnau SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I58Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xiii)

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd SACLL+C

28(1)Rhaid i’r rheolau ddarparu am gworwm ar gyfer unrhyw gyfarfodydd SAC (gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgorau neu is-bwyllgorau a sefydlir o dan baragraff 29).

(2)Caiff y rheolau ddarparu bod cworymau gwahanol yn gymwys i amgylchiadau gwahanol (er enghraifft, mewn perthynas â chyfarfodydd penodol neu at ddibenion penodol).

(3)Rhaid i’r rheolau ddarparu na ellir bodloni cworwm ar unrhyw adeg oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I60Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xiv)

PwyllgorauLL+C

29(1)Caiff y rheolau gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer sefydlu pwyllgorau SAC, ac i’r pwyllgorau hynny sefydlu is-bwyllgorau, a

(b)darpariaeth i reoleiddio gweithdrefnau’r pwyllgorau a’r is-bwyllgorau hynny.

(2)Caiff cyflogai i SAC nad yw’n aelod sy’n gyflogai fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.

(3)Caiff person nad yw’n aelod o SAC nac yn gyflogai i SAC fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ar yr amod nad oes dim un o swyddogaethau SAC yn cael ei dirprwyo i’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor (gweler paragraff 32).

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I62Atod. 1 para. 29(1) mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xv)

I63Atod. 1 para. 29(2)(3) mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Cynnal pleidleisiauLL+C

30Rhaid i’r rheolau gynnwys darpariaeth ynghylch cynnal pleidleisiau at ddiben penodi aelodau sy’n gyflogeion (gweler paragraff 16).

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I65Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xvi)

RHAN 8LL+CMATERION ERAILL

DilysrwyddLL+C

31Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan SAC (gan gynnwys unrhyw beth a wneir gan ei haelodau anweithredol, yr aelodau sy’n gyflogeion, unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor, a chan unrhyw gyflogai i SAC) gan—

(a)swydd wag, neu

(b)penodiad diffygiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I67Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xvii)

Dirprwyo swyddogaethauLL+C

32(1)Caiff SAC ddirprwyo ei swyddogaethau i—

(a)unrhyw un o’i haelodau, cyflogeion neu bwyllgorau, neu

(b)i berson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

(2)Caiff pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau a ddirprwywyd iddo) i is-bwyllgor.

(3)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn atal SAC na’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) rhag gweithredu’r swyddogaeth ei hun.

(4)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb SAC neu’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) am y swyddogaeth.

(5)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau o dan y darpariaethau canlynol—

(a)adran 20(1)(a) (amcangyfrif incwm a gwariant SAC am bob blwyddyn ariannol);

(b)adran 25(1) (paratoi cynllun blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol gyda’r Archwilydd Cyffredinol);

(c)paragraff 27 o Ran 7 o’r Atodlen hon (gwneud rheolau at y diben o reoleiddio gweithdrefn SAC);

(d)paragraff 34(2) o Ran 8 o’r Atodlen hon (argymell person i archwilio cyfrifon SAC, etc);

(e)paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 (paratoi adroddiad neu adroddiad interim, ar y cyd, bob blwyddyn ariannol ar arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC);

(f)paragraff 5 o Ran 3 o Atodlen 2 (dynodi person arall, dros dro, i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I69Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xviii)

I70Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Cyfrifon SACLL+C

33(1)Yr Archwilydd Cyffredinol fydd y swyddog cyfrifyddu ar gyfer SAC.

(2)Rhaid i’r swyddog cyfrifyddu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddiau a roddir gan y Trysorlys—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)paratoi datganiad o gyfrifon.

(3)Rhaid i ddatganiad o gyfrifon roi barn wir a theg ar—

(a)cyflwr materion SAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a

(b)incwm a gwariant SAC yn ystod y flwyddyn ariannol.

(4)Mae’r cyfarwyddiadau y caiff y Trysorlys eu rhoi yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) gyfarwyddiadau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)y materion a’r trafodion ariannol y mae’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon i ymwneud â hwy;

(b)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(d)yr wybodaeth ychwanegol (os oes gwybodaeth felly) sydd i ddod gyda’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon.

(5)Caiff y cyfarwyddiadau y caniateir i’r Trysorlys eu rhoi hefyd gynnwys cyfarwyddiadau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau ac eithrio SAC.

(6)Mae gan swyddog cyfrifyddu SAC, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SAC, gyfrifoldebau eraill a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I72Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Archwilio SAC etcLL+C

34(1)Y Cynulliad Cenedlaethol sydd i benodi person yn archwilydd cyfrifon SAC, ac i bennu telerau penodi’r person hwnnw.

(2)Caiff SAC argymell person at ddibenion is-baragraff (1).

(3)Dim ond os yw’r person yn archwilydd cymwysedig fel y’i ddiffinnir yn adran 19 y mae person yn gymwys i’w benodi.

(4)Os yw person a benodir yn archwilydd yn peidio â bod yn archwilydd cymwysedig, mae’r person yn peidio â bod yn archwilydd.

(5)Rhaid i’r person a benodir yn archwilydd roi sylw i’r safonau a’r egwyddorion y byddai disgwyl i ddarparwr proffesiynol arbenigol o wasanaethau cyfrifyddu neu archwilio eu dilyn.

(6)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r archwilydd fel y darperir ar ei gyfer gan delerau penodi’r archwilydd, neu o dan y telerau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 1 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I74Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

35(1)O ran datganiad o gyfrifon a baratoir o dan baragraff 33, rhaid iddo—

(a)cael ei lofnodi gan swyddog cyfrifyddu SAC, a

(b)cael ei gyflwyno gan gadeirydd SAC i’r archwilydd a benodwyd o dan baragraff 34,

heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

(2)Rhaid i’r archwilydd—

(a)ymchwilio i unrhyw ddatganiad o gyfrifon a dderbynnir ganddo o dan is-baragraff (1) a’i ardystio, a

(b)gosod y datganiad o gyfrifon fel y’i hardystiwyd ganddo ynghyd â’i adroddiad arno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Rhaid i’r archwilydd, yn benodol, fod yn fodlon, ar ôl ymchwilio i ddatganiad o gyfrifon a gyflwynir iddo—

(a)bod y gwariant yr aed iddo ac y mae a wnelo’r datganiad ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sydd yn ei lywodraethu;

(b)nad yw arian y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a gafodd SAC at ddiben penodol neu at ddibenion penodol, wedi ei wario ond at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny;

(c)bod y datganiad o gyfrifon yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon;

(d)bod arferion priodol wedi eu dilyn wrth baratoi’r datganiad o gyfrifon.

(4)Mae gan yr archwilydd yr hawl, ar bob adeg resymol, i gael gafael ar bob dogfen yr ymddengys i’r archwilydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwilio’r cyfrifon.

(5)Caiff yr archwilydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am ddogfen o’r fath, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu cyfrifon i’r archwilydd, ar adegau a bennir ganddo, o ran y trafodion hynny (gan y person perthnasol) a bennir gan yr archwilydd.

(6)Ystyr “person perthnasol” yw—

(a)yr Archwilydd Cyffredinol,

(b)SAC, neu

(c)unrhyw berson y mae’r cyfrifon yn ymwneud â’i faterion a’i drafodion ariannol o ganlyniad i baragraff 33(5).

(7)Caiff yr archwilydd—

(a)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol;

(b)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae SAC wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau SAC;

(c)gosod adroddiad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliadau o’r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(8)At ddibenion cynnal ymchwiliadau o’r fath—

(a)mae gan yr archwilydd hawl i gael gafael, ar bob adeg resymol, ar bob dogfen ym meddiant neu o dan reolaeth yr Archwilydd Cyffredinol neu SAC, y mae ar yr archwilydd angen rhesymol amdano at y dibenion hynny;

(b)caiff yr archwilydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am, unrhyw un o’r dogfennau hynny, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 1 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I76Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Tystiolaeth ddogfennolLL+C

36(1)Mae gosod sêl SAC i’w ddilysu â llofnod—

(a)aelod o SAC, neu

(b)cyflogai i SAC a awdurdodwyd (naill ai’n gyffredinol neu’n benodol) ar gyfer y diben hwnnw gan SAC.

(2)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl SAC, neu yr honnir ei bod wedi ei llofnodi ar ei rhan—

(a)i gael ei derbyn yn dystiolaeth, a

(b)oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi’i chyflawni neu ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 1 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I78Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)