14Mae’r aelodau sy’n gyflogeion i gynnwys-
(a)person a benodir yn unol â pharagraff 15 (“yr aelod a benodir”), a
(b)dau berson a benodir yn unol â pharagraff 16 (“yr aelodau etholedig”).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
15(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person i’r aelodau anweithredol i’w benodi o dan y paragraff hwn.
(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol—
(a)penodi’r person hwnnw, neu
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person arall (os felly bydd yr is-baragraff hwn yn gymwys dro ar ôl tro hyd nes bod rhywun wedi ei benodi’n aelod).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I4Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
16(1)Rhaid i SAC gynnal pleidlais o’i staff at ddiben penodi person neu bersonau, yn ôl y digwydd, o dan y paragraff hwn.
(2)Mae’r aelodau etholedig i’w penodi gan yr aelodau anweithredol yn unol â chanlyniad y bleidlais.
(3)Mae penodiad a wneir o dan y paragraff hwn i’w drin fel penodiad ar sail teilyngdod at ddibenion paragraff 2(2) (penodi aelodau SAC ar sail teilyngdod).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I6Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
17(1)Bydd telerau penodi yr aelodau sy’n gyflogeion yn cael eu pennu gan yr aelodau anweithredol.
(2)Caiff y telerau gynnwys trefniadau talu cydnabyddiaeth a all—
(a)gwneud darpariaeth ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC, a
(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.
(3)Ni chaiff y trefniadau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog nac ychwaith, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), ar gyfer pensiwn.
(4)Bydd y symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (2) yn cael eu talu gan SAC.
(5)Os yw aelod sy’n gyflogai (“A”) yn cyfranogi o gynllun pensiwn o dan delerau cyflogaeth A gyda SAC, rhaid i’r trefniadau talu cydnabyddiaeth (heb effeithio ar barhad y gyflogaeth honno) wneud darpariaethau sy’n sicrhau bod gwasanaeth A fel aelod sy’n gyflogai i’w drin, at ddibenion y cynllun, fel petai’n wasanaeth fel cyflogai i SAC.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I8Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
18(1)Caiff yr aelodau anweithredol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad aelod sy’n gyflogai.
(2)Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—
(a)y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol) y caiff yr aelod sy’n gyflogai eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;
(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad) y caiff yr aelod sy’n gyflogai fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod.
(3)Ond dim ond tra bod person yn aelod sy’n gyflogai, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod sy’n gyflogai, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I10Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
19Mae penodiad aelod sy’n gyflogai yn dod i ben—
(a)os yw’r telerau penodi yn darparu ei fod yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a
(b)beth bynnag yw’r sefyllfa, pan fo’r aelod yn peidio â bod yn gyflogai i SAC.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I12Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
20(1)Caiff aelod sy’n gyflogai ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.
(2)Bydd y penodiad yn dod i ben pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn gan yr aelodau anweithredol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I14Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
21Caiff yr aelodau anweithredol ddod â phenodiad aelod sy’n gyflogai i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—
(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,
(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,
(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,
(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,
(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu
(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I16Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)