Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Tystiolaeth ddogfennolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

36(1)Mae gosod sêl SAC i’w ddilysu â llofnod—

(a)aelod o SAC, neu

(b)cyflogai i SAC a awdurdodwyd (naill ai’n gyffredinol neu’n benodol) ar gyfer y diben hwnnw gan SAC.

(2)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl SAC, neu yr honnir ei bod wedi ei llofnodi ar ei rhan—

(a)i gael ei derbyn yn dystiolaeth, a

(b)oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi’i chyflawni neu ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)