Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Archwilio SAC etcLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

34(1)Y Cynulliad Cenedlaethol sydd i benodi person yn archwilydd cyfrifon SAC, ac i bennu telerau penodi’r person hwnnw.

(2)Caiff SAC argymell person at ddibenion is-baragraff (1).

(3)Dim ond os yw’r person yn archwilydd cymwysedig fel y’i ddiffinnir yn adran 19 y mae person yn gymwys i’w benodi.

(4)Os yw person a benodir yn archwilydd yn peidio â bod yn archwilydd cymwysedig, mae’r person yn peidio â bod yn archwilydd.

(5)Rhaid i’r person a benodir yn archwilydd roi sylw i’r safonau a’r egwyddorion y byddai disgwyl i ddarparwr proffesiynol arbenigol o wasanaethau cyfrifyddu neu archwilio eu dilyn.

(6)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r archwilydd fel y darperir ar ei gyfer gan delerau penodi’r archwilydd, neu o dan y telerau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)