Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Cyfrifon SACLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

33(1)Yr Archwilydd Cyffredinol fydd y swyddog cyfrifyddu ar gyfer SAC.

(2)Rhaid i’r swyddog cyfrifyddu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddiau a roddir gan y Trysorlys—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)paratoi datganiad o gyfrifon.

(3)Rhaid i ddatganiad o gyfrifon roi barn wir a theg ar—

(a)cyflwr materion SAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a

(b)incwm a gwariant SAC yn ystod y flwyddyn ariannol.

(4)Mae’r cyfarwyddiadau y caiff y Trysorlys eu rhoi yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) gyfarwyddiadau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)y materion a’r trafodion ariannol y mae’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon i ymwneud â hwy;

(b)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(d)yr wybodaeth ychwanegol (os oes gwybodaeth felly) sydd i ddod gyda’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon.

(5)Caiff y cyfarwyddiadau y caniateir i’r Trysorlys eu rhoi hefyd gynnwys cyfarwyddiadau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau ac eithrio SAC.

(6)Mae gan swyddog cyfrifyddu SAC, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SAC, gyfrifoldebau eraill a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)