ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru
RHAN 8MATERION ERAILL
32Dirprwyo swyddogaethau
1
Caiff SAC ddirprwyo ei swyddogaethau i—
a
unrhyw un o’i haelodau, cyflogeion neu bwyllgorau, neu
b
i berson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.
2
Caiff pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau a ddirprwywyd iddo) i is-bwyllgor.
3
Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn atal SAC na’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) rhag gweithredu’r swyddogaeth ei hun.
4
Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb SAC neu’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) am y swyddogaeth.
5
Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau o dan y darpariaethau canlynol—
a
adran 20(1)(a) (amcangyfrif incwm a gwariant SAC am bob blwyddyn ariannol);
b
adran 25(1) (paratoi cynllun blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol gyda’r Archwilydd Cyffredinol);
c
paragraff 27 o Ran 7 o’r Atodlen hon (gwneud rheolau at y diben o reoleiddio gweithdrefn SAC);
d
paragraff 34(2) o Ran 8 o’r Atodlen hon (argymell person i archwilio cyfrifon SAC, etc);
e
paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 (paratoi adroddiad neu adroddiad interim, ar y cyd, bob blwyddyn ariannol ar arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC);
f
paragraff 5 o Ran 3 o Atodlen 2 (dynodi person arall, dros dro, i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).