Dirprwyo swyddogaethauLL+C
32(1)Caiff SAC ddirprwyo ei swyddogaethau i—
(a)unrhyw un o’i haelodau, cyflogeion neu bwyllgorau, neu
(b)i berson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.
(2)Caiff pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau a ddirprwywyd iddo) i is-bwyllgor.
(3)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn atal SAC na’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) rhag gweithredu’r swyddogaeth ei hun.
(4)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb SAC neu’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) am y swyddogaeth.
(5)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau o dan y darpariaethau canlynol—
(a)adran 20(1)(a) (amcangyfrif incwm a gwariant SAC am bob blwyddyn ariannol);
(b)adran 25(1) (paratoi cynllun blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol gyda’r Archwilydd Cyffredinol);
(c)paragraff 27 o Ran 7 o’r Atodlen hon (gwneud rheolau at y diben o reoleiddio gweithdrefn SAC);
(d)paragraff 34(2) o Ran 8 o’r Atodlen hon (argymell person i archwilio cyfrifon SAC, etc);
(e)paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 (paratoi adroddiad neu adroddiad interim, ar y cyd, bob blwyddyn ariannol ar arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC);
(f)paragraff 5 o Ran 3 o Atodlen 2 (dynodi person arall, dros dro, i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xviii)
I3Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)