Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Trefniadau talu cydnabyddiaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

25(1)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i gyflogeion fel y darperir ar ei gyfer gan eu telerau penodi, neu o dan y telerau hynny.

(2)Rhaid i SAC dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

(a)darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn gyflogai i SAC neu sydd wedi peidio â bod yn gyflogai iddi, a

(b)y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, y rhoddion ariannol hynny neu’r buddion eraill hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)