xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
21Caiff yr aelodau anweithredol ddod â phenodiad aelod sy’n gyflogai i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—
(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,
(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,
(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,
(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,
(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu
(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)