xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CYMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 1LL+CAELODAETH A STATWS

Penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeionLL+C

2(1)Mae aelodau SAC (ar wahân i’r Archwilydd Cyffredinol) i’w penodi yn unol â darpariaethau’r Atodlen hon.

(2)Rhaid gwneud pob penodiad ar sail teilyngdod.

(3)Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

(4)Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(ii)

I3Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)