xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CYMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 4LL+CAELODAU SY’N GYFLOGEION

Telerau penodiLL+C

17(1)Bydd telerau penodi yr aelodau sy’n gyflogeion yn cael eu pennu gan yr aelodau anweithredol.

(2)Caiff y telerau gynnwys trefniadau talu cydnabyddiaeth a all—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(3)Ni chaiff y trefniadau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog nac ychwaith, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), ar gyfer pensiwn.

(4)Bydd y symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (2) yn cael eu talu gan SAC.

(5)Os yw aelod sy’n gyflogai (“A”) yn cyfranogi o gynllun pensiwn o dan delerau cyflogaeth A gyda SAC, rhaid i’r trefniadau talu cydnabyddiaeth (heb effeithio ar barhad y gyflogaeth honno) wneud darpariaethau sy’n sicrhau bod gwasanaeth A fel aelod sy’n gyflogai i’w drin, at ddibenion y cynllun, fel petai’n wasanaeth fel cyflogai i SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)