xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CYMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 2LL+CAELODAU ANWEITHREDOL

Dod â phenodiadau i benLL+C

11(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

(2)Os yw’r aelod anweithredol y daw a’i benodiad i ben o dan is-baragraff (1) yn gadeirydd ar SAC, mae penodiad y person hwnnw fel cadeirydd hefyd yn dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(x)