RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL
PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC
Incwm a gwariant
20Gwariant
(1)
Am bob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wneud y canlynol ar y cyd—
(a)
darparu amcangyfrif o incwm a gwariant SAC, a
(b)
gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)
Rhaid i bob amcangyfrif ymdrin (ymhlith pethau eraill) â’r adnoddau sy’n ofynnol at ddibenion adran 21 ( adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol).
(3)
Rhaid i bob amcangyfrif gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymdrin â hi.
(4)
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw newid i’r amcangyfrif y mae’n ei ystyried yn briodol (yn ddarostyngedig i is-adran (5)).
(5)
Ni chaniateir gwneud newid o dan is-adran (4) heb—
(a)
ymgynghori â SAC a’r Archwilydd Cyffredinol, a
(b)
rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y naill neu’r llall.
21Darparu adnoddau ar gyfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol
(1)
Rhaid i SAC ddarparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol, fel sy’n ofynnol gan yr Archwilydd Cyffredinol.
(2)
Yn benodol, mae SAC yn gyfrifol am—
(a)
cyflogi staff i gynorthwyo arfer y swyddogaethau hynny;
(b)
sicrhau gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion y swyddogaethau hynny;
(c)
dal eiddo at ddibenion y swyddogaethau hynny;
(d)
dal dogfennau neu wybodaeth a gaffaelwyd neu a gynhyrchwyd yn ystod arfer y swyddogaethau, neu fel arall at ddibenion y swyddogaethau hynny (gweler paragraff 4(2) o Atodlen 2);
(e)
cadw cofnodion mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.
22Benthyg
Caiff SAC fenthyg symiau mewn sterling (ar ffurf gorddrafft neu fel arall) i’w cymhwyso at y diben o gyfarfod gorwariant dros dro dros symiau sydd ar gael i’w gyfarfod fel arall.