xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 2LL+CY BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC

Cynllun blynyddolLL+C

25Cynllun blynyddolLL+C

(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC baratoi cynllun blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi’r canlynol—

(a)rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol;

(b)rhaglen waith SAC;

(c)yr adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, i SAC;

(d)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol;

(e)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen SAC;

(f)yr uchafswm, allan o’r o adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, y rhagwelir y bydd SAC yn dyrannu i’r Archwilydd Cyffredinol at y diben o ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol.

(3)Yn y Bennod hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 25 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(m)

26Cynllun blynyddol: y Cynulliad CenedlaetholLL+C

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC osod y cynllun blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4A. 26 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(n)

27Cynllun blynyddol: effaithLL+C

Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol a SAC i gael eu rhwymo gan y cynllun blynyddol, ond rhaid iddynt roi sylw iddo wrth arfer eu swyddogaethau, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol gan SAC o dan adran 21 (ond nid yn gyfyngedig i hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I6A. 27 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(o)