xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 1LL+CSWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

13Ymgorffori Swyddfa Archwilio CymruLL+C

(1)Bydd corff corfforaethol o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”).

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 13 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(e)

14PwerauLL+C

Caiff SAC wneud unrhyw beth (gan gynnwys caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawliau a derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall) a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4A. 14 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(f)

15EffeithlonrwyddLL+C

Rhaid i SAC anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I6A. 15 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(g)