Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Atodlen 1 – Ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru

Paragraff 1 – Aelodaeth

54.Mae'r paragraff hwn yn cadarnhau y bydd gan SAC 9 aelod, sef 5 nad ydynt yn gyflogeion i SAC (a elwir yn ‘aelodau anweithredol’), ACC a 3 cyflogai i SAC (a elwir yn ‘aelodau sy'n gyflogeion’).

Paragraff 2 – Penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion

55.Penodir aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion SAC ar sail teilyngdod ac ni all person gael ei benodi (nac aros yn y swydd) os yw wedi ei anghymhwyso ar y seiliau a nodir ym mharagraff 26 o Atodlen 1 – gweler isod.

Paragraff 4 – Penodi aelodau anweithredol

56.Y Cynulliad sydd i benodi aelodau anweithredol SAC, a hynny ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Paragraff 5 – Penodi cadeirydd ar SAC

57.Bydd y Cynulliad yn penodi un o bum aelod anweithredol SAC yn Gadeirydd ar SAC. Cyn gwneud y penodiad hwnnw, rhaid ymgynghori â'r Prif Weinidog. Caniateir ymgynghori â phersonau eraill fel y bo'n briodol.

58.Ni chaniateir penodi person yn Gadeirydd fwy na dwywaith.

Paragraff 6 – Cyfnod penodi ac ailbenodi

59.Penodir aelodau anweithredol a Chadeirydd SAC am bedair blynedd ar y mwyaf, ac ni chaniateir penodi person i'r swyddi hyn fwy na dwywaith.

Paragraff 7 – Trefniadau talu cydnabyddiaeth

60.Caiff y Cynulliad wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth ar gyfer Cadeirydd SAC a’r aelodau anweithredol eraill, a chaiff y trefniadau hynny gynnwys cyflog, lwfansau, rhoddion ariannol, a buddion eraill (ond nid trefniadau pensiwn). Ym mhob achos ni chaniateir i’r trefniadau hyn (nac elfennau ohonynt) fod yn seiliedig ar berfformiad.

61.Cyn gwneud y trefniadau ar gyfer y Cadeirydd, rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog (paragraff 7(2)). Rhaid ymgynghori hefyd â pherson priodol sydd â throsolwg ar benodiadau cyhoeddus (paragraff 9). Caniateir ymgynghori â phersonau eraill fel y bo'n briodol.

62.Bydd y symiau sy'n daladwy ar gyfer Cadeirydd SAC yn cael eu codi ar CGC; bydd y symiau sy'n daladwy ar gyfer yr aelodau anweithredol eraill yn cael eu talu gan SAC.

Paragraffau 8 a 9 – Telerau penodi eraill

63.Caiff y Cynulliad benderfynu ar delerau ac amodau eraill sy'n gymwys i aelodau anweithredol SAC, gan gynnwys y Cadeirydd. Caiff y cytundebau neu'r trefniadau hyn gynnwys cyfyngiadau ar swyddi eraill y caniateir i aelod anweithredol eu dal am gyfnod o hyd at ddwy flynedd ar ôl iddynt orffen dal y swydd (paragraff 8).

64.Cyn gwneud penderfyniad ar y telerau a’r amodau hynny rhaid ymgynghori â pherson priodol sydd â throsolwg ar benodiadau cyhoeddus y mae'r Cynulliad yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori ag ef.

Paragraffau 10 i 12 – Dod â phenodiadau i ben

65.Caiff Cadeirydd ac aelodau anweithredol SAC ymddiswyddo o'u swyddi ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad (paragraff 10).

66.Caiff y Cynulliad ddod â phenodiad aelod anweithredol SAC i ben ar y seiliau a nodir ym mharagraff 11(1). Caiff y Cynulliad ddod â phenodiad Cadeirydd SAC i ben (ar y seiliau a nodir ym mharagraff 12(3)), ond dim ond ar ôl ymgynghori â'r Prif Weinidog. Caiff ymgynghori â phersonau eraill hefyd. Nid yw dod â phenodiad y Cadeirydd i ben yn golygu’n awtomatig fod ei benodiad yn aelod anweithredol o SAC yn dod i ben. Os yw aelodaeth anweithredol y person sy'n Gadeirydd yn dod i ben, yna bydd y person hwnnw yn colli ei swydd fel Cadeirydd hefyd.

Paragraff 13 – Talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol

67.Yn ychwanegol at y trefniadau a wneir gan y Cynulliad ar gyfer talu cydnabyddiaeth i ACC (gweler adran 7), caiff SAC hefyd ddarparu bod taliadau ychwanegol yn cael eu gwneud i ACC i dalu costau yr eir iddynt gan y person hwnnw yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC a phrif weithredwr arni. Bydd y taliadau hynny'n cael eu gwneud gan SAC.

Paragraff 14 i 16 – Penodi aelodau sy’n gyflogeion

68.Rhaid i’r aelodau sy’n gyflogeion gynnwys:

Paragraff 17 – Telerau penodi

69.Rhaid i delerau penodi’r aelodau sy'n gyflogeion gael eu gwneud gan yr aelodau anweithredol, a chânt gynnwys trefniadau talu cydnabyddiaeth ar gyfer lwfansau, rhoddion ariannol a buddion eraill i dalu costau. Bydd y taliadau hynny yn cael eu gwneud gan SAC. Bydd yr aelodau sy'n gyflogeion yn parhau i dderbyn eu cyflogau fel cyflogeion i SAC. Nid oes unrhyw ddarpariaeth pensiwn ar gyfer aelod sy'n gyflogai, ond os oes gan aelod sy’n gyflogai bensiwn o ganlyniad i’w gyflogaeth gyda SAC yna bydd ei wasanaeth fel aelod sy'n gyflogai hefyd yn cyfrif tuag at ei hawlogaeth i'r pensiwn hwnnw.

70.Ni chaiff y SAC newydd ystyried bod cyfnod mewn swydd aelod sy'n gyflogai yn doriad yng ngwasanaeth cyflogedig yr aelod hwnnw.

Paragraff 18 – Telerau penodi eraill

71.Caiff yr aelodau anweithredol benderfynu ar delerau penodi eraill sy'n gymwys i benodiad aelod sy'n gyflogai; caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y swyddi eraill y caiff aelod sy'n gyflogai eu dal yn ystod ei benodiad ac am gyfnod o hyd at ddwy flynedd ar ôl iddynt orffen yn y swydd honno.

Paragraffau 19 i 21 – Dod â phenodiad i ben

72.Caiff aelod sy'n gyflogai ymddiswyddo o'r swydd honno (ond parhau'n gyflogai i SAC) ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r aelodau anweithredol (paragraff 20). Byddai'r penodiad yn dod i ben hefyd ar ddiwedd unrhyw gyfnod penodi a nodir yn ei delerau penodi, neu os yw’n peidio â bod yn gyflogai i SAC.

73.Mae paragraff 21 o Atodlen 1 hefyd yn darparu'r broses ar gyfer dod â phenodiad i ben gan yr aelodau anweithredol, a’r seiliau dros wneud hynny.

Paragraffau 22 i 25 – yn ymwneud â phenodi, statws a thalu cydnabyddiaeth

74.Mae gan SAC, yn rhinwedd paragraff 22, bwerau i gyflogi a thalu staff ar ba delerau bynnag a ystyria’n briodol.

75.Bydd yn ofynnol i SAC wneud taliadau o ran buddion blwydd-daliadau a'r costau gweinyddu sy'n gysylltiedig â hwy (paragraff 25(2)).

Paragraff 26 – Anghymhwyso fel aelod o’r SAC neu gyflogai iddi

76.Mae’r paragraff hwn yn rhagnodi'r seiliau pan na ellir penodi person yn aelod o SAC nac yn gyflogai SAC (na pharhau’n benodedig felly).

77.Mae angen paragraff 26(4) i sicrhau nad yw ACC yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o SAC, o gofio bod ACC wedi ei benodi gan Ei Mawrhydi ar sail enwebiad y Cynulliad.

Paragraffau 27 i 30 – mewn perthynas â Rheolau Gweithdrefnol

78.Rhaid i SAC wneud rheolau mewnol i reoleiddio ei gweithdrefnau (paragraff 27). Rhaid i'r rheolau ddarparu am gworwm ar gyfer unrhyw gyfarfodydd SAC (paragraff 26), a chânt ddarparu ar gyfer ffurfio pwyllgorau SAC, ac unrhyw is-bwyllgorau, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer rheoleiddio gweithdrefnau pwyllgorau ac is-bwyllgorau (paragraff 29) a rhaid iddynt gynnwys darpariaethau ynghylch cynnal pleidleisiau at y diben o benodi’r aelodau etholedig sy’n gyflogeion (aelodau sy’n gyflogeion) (paragraff 30).

79.Gweler hefyd baragraff 3 o Atodlen 3 i'r Ddeddf sy’n galluogi Cadeirydd SAC i wneud rheolau dros dro ar gyfer penderfynu ar fusnes SAC tan y gwneir y set gyntaf o reolau ffurfiol.

Paragraff 32 – Dirprwyo swyddogaethau

80.Gydag eithriadau penodol (fel y’u nodir ym mharagraff 32(5)) caiff SAC ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau i aelodau, cyflogeion neu bwyllgorau (gan gynnwys is-bwyllgorau) SAC, neu i bersonau sy'n darparu gwasanaethau i SAC. Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb y SAC newydd am y gwaith o arfer y swyddogaeth.

Paragraff 33 – Cyfrifon SAC

81.Mae’r paragraff hwn yn cadarnhau mai ACC yw swyddog cyfrifyddu SAC. Pennir cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu yn rhinwedd paragraff 33(2) i (6).

Paragraffau 34 a 35 – Archwilio SAC etc

82.Mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi archwilydd i archwilio cyfrifon SAC, a chadarnhau telerau penodi'r archwilydd hwnnw. Caiff SAC argymell person i'w benodi, ond rhaid iddi dalu’r tâl cydnabyddiaeth y darperir ar ei gyfer yn y penodiad.

83.Bydd yr archwilydd yn archwilio ac yn ardystio’r datganiad o gyfrifon (a baratoir gan ACC fel swyddog cyfrifyddu SAC), sydd i'w cyflwyno i'r archwilydd gan Gadeirydd SAC cyn pen pum mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol ar y mwyaf. Unwaith bod y datganiad o gyfrifon wedi ei archwilio a'i ardystio, rhaid i'r archwilydd osod y cyfrifon (fel y'u hardystiwyd) a'i adroddiad arnynt gerbron y Cynulliad.

84.Ymhlith materion eraill mae paragraff 35 yn rhoi’r pŵer i’r archwilydd gasglu gwybodaeth (gan gynnwys dogfennau) sy'n angenrheidiol at y diben o archwilio'r cyfrifon.

85.Mae paragraff 35 hefyd yn galluogi'r archwilydd i gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mewn perthynas â’r defnydd o adnoddau gan ACC a SAC wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau; yn rhoi pŵer i'r archwilydd gasglu gwybodaeth (gan gynnwys dogfennau) at y diben hwnnw ac yn darparu y caiff yr archwilydd osod adroddiad ar ei ganfyddiadau gerbron y Cynulliad, mewn cysylltiad â'r ymchwiliadau hyn.