Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf hon—

(a)yn rhagnodi bod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ar y telerau a nodir yn Rhan 1, Pennod 1;

(b)yn creu corff corfforaethol newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) ac yn rhoi swyddogaethau iddo (Rhan 2, ac Atodlenni 1 a 2);

(c)yn rhagnodi trefniadau llywodraethu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a SAC, gan gynnwys trefniadau ar gyfer arolygiaeth yr Archwilydd Cyffredinol gan SAC, a darpariaethau yn ymwneud â’r berthynas rhwng y ddau (Rhan 2, Pennod 2 ac Atodlenni 1 a 2);

(d)yn rhagnodi sut y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru i’w harfer, ac yn gwneud darpariaeth i’r Archwilydd Cyffredinol archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru (Rhan 1, Pennod 2).

RHAN 1ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

PENNOD 1SWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

2Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru

(1)Bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) yn parhau.

(2)Ei Mawrhydi sydd i benodi person i fod yn Archwilydd Cyffredinol ar enwebiad y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Nid oes enwebiad i gael ei wneud hyd nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi cael ei wneud gyda’r cyrff hynny yr ymddengys i’r Cynulliad eu bod yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

(4)Mae’r person sydd wedi ei benodi yn dal y swydd am hyd at 8 mlynedd.

(5)Ni chaniateir i’r person gael ei benodi eto.

(6)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred neu anweithred person a benodwyd yn Archwilydd Cyffredinol gan ddiffyg yn enwebiad neu benodiad y person hwnnw.

3Ymddiswyddiad neu ddiswyddiad

(1)Mae person a benodir yn Archwilydd Cyffredinol yn dal y swydd tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3)).

(2)Caiff Ei Mawrhydi ryddhau person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer—

(a)ar gais y person, neu

(b)wedi i’w Mawrhydi gael ei bodloni nad yw’r person yn gallu, oherwydd rhesymau meddygol, cyflawni dyletswyddau’r swydd na gwneud cais i gael ei ryddhau ohoni.

(3)Caiff Ei Mawrhydi ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer ar dderbyn argymhelliad, ar sail camymddygiad y person, y dylai Ei Mawrhydi wneud hynny.

(4)Ni chaniateir gwneud argymhelliad i ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol oni bai—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y dylai’r argymhelliad gael ei wneud, a

(b)bod penderfyniad y Cynulliad wedi ei basio ar bleidlais lle yr oedd nifer yr aelodau Cynulliad a bleidleisiodd o blaid yn ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Cynulliad.

4Anghymhwyso

(1)Ni all person gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

(2)Mae person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;

(d)yn Aelod o Senedd yr Alban;

(e)yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;

(f)yn gyflogai i Swyddfa Archwilio Cymru.

5Cyflogaeth etc cyn-Archwilydd Cyffredinol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson a oedd wedi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol o dan y Rhan hon, ond nad yw bellach yn y swydd honno.

(2)Cyn gwneud y canlynol—

(a)cymryd swydd o ddisgrifiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(b)ymrwymo i gytundeb neu drefniant arall o ddisgrifiad a bennir felly,

rhaid i’r person ymgynghori ag unrhyw berson a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o’r canlynol—

(a)y swyddi a bennir at ddibenion is-adran (2)(a);

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill a bennir at ddibenion is-adran (2)(b).

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys am gyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol.

(5)Rhaid i’r person beidio â gwneud y canlynol—

(a)dal swydd y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer gan neu ar ran—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)bod yn aelod, cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i berson a restrir yn is-adran (7).

(6)Rhaid i’r person beidio â darparu gwasanaethau, yn rhinwedd unrhyw swydd, i’r canlynol—

(a)y Goron, neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron,

(b)y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Cynulliad,

(c)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Comisiwn, neu

(d)person a restrir yn is-adran (7).

(7)Dyma’r personau—

(a)person y mae ei gyfrifon neu ei ddatganiad o gyfrifon yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt neu iddo yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(b)person y mae astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian a wneir neu a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad yn ymwneud ag ef;

(c)person y mae astudiaeth a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol ag adran 145A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (astudiaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gorff neu gyrff perthnasol) yn ymwneud ag ef;

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn darparu cyngor neu gymorth iddo o dan adran 145D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;

(e)person y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol swyddogaethau mewn perthynas ag ef, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag ef, yn rhinwedd adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (trosglwyddo swyddogaethau Gweinidogion Cymru);

(f)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (3) o’r adran honno;

(g)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno.

(8)Ond nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal person rhag dal unrhyw un o’r swyddi canlynol—

(a)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol;

(b)Archwilydd Cyffredinol yr Alban;

(c)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

6Statws etc

(1)Mae’r person sydd am y tro yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau, yn enw’r swydd honno, i fod yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol i’w ystyried yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi neu’n un sy’n arfer unrhyw swyddogaeth ar ran y Goron.

(3)Ond ystyrir bod yr Archwilydd Cyffredinol yn was i’r Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

7Talu cydnabyddiaeth

(1)Cyn i berson gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol, bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth yn cael eu gwneud o ran y person hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Ond cyn y gellir gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, trefniadau ar gyfer pensiwn a buddion eraill, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(4)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

(5)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

(a)darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol neu sydd wedi peidio â dal y swydd honno, a

(b)y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, arian rhodd hynny neu’r buddion eraill hynny.

(6)Bydd symiau sy’n daladwy yn rhinwedd yr adran hon yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru ac yn cael eu talu ohoni.

PENNOD 2SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn ag arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol etc

8Sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer

(1)Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol ddisgresiwn llwyr o ran y modd y mae swyddogaethau’r swydd honno i gael eu harfer ac nid yw’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru.

(2)Ond mae’r disgresiwn hwn yn ddarostyngedig i is-adran (3).

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol;

(b)rhoi sylw, fel y mae’n ystyried yn briodol, i’r safonau a’r egwyddorion y disgwylir i ddarparwr arbenigol proffesiynol mewn cyfrifyddiaeth neu wasanaethau archwilio eu dilyn;

(c)rhoi sylw i gyngor a roddir iddo gan SAC (gweler adran 17(3)).

9Pwerau atodol

(1)Caiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

(2)Ond ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth sydd yn, neu a allai ddod yn, gyfrifoldeb i SAC, yn rhinwedd paragraffau (a) i (c) o adran 21(2) (darparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

10Cod ymarfer archwilio

(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddyroddi cod ymarfer archwilio sy’n rhagnodi’r modd y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol a bennir yn is-adran (2) i’w cyflawni.

(2)Dyma’r swyddogaethau—

(a)cynnal ymchwiliad i unrhyw gyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon sydd yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(b)cynnal neu hybu astudiaethau neu ymchwiliadau gwerth am arian neu ymgymryd â hwy, yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(c)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, neu sydd wedi eu trosglwyddo i’r Archwilydd Cyffredinol odanynt—

(i)adran 145A(2) (ymgymryd ag astudiaethau eraill, neu hybu astudiaethau eraill, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gyrff penodol);

(ii)adran 145C(8) (datgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru a gafwyd yn ystod astudiaeth mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig);

(iii)adran 145D (darparu cyngor a chymorth i landlord cymdeithasol cofrestredig);

(iv)adran 146 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

(v)adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwylio Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

(vi)adran 147 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud ag Asiantaeth yr Amgylchedd i’r Archwilydd Cyffredinol);

(d)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004—

(i)Rhan 2 (archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru);

(ii)adran 45 (cynnal, neu gynorthwyo’r Ysgrifennydd Gwladol i gynnal, astudiaethau gweinyddu budd-dal);

(iii)adran 51 (cyfeirio materion sy’n ymwneud â nawdd cymdeithasol at yr Ysgrifennydd Gwladol);

(e)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—

(i)paragraff 17 (mynediad at ddogfennau);

(ii)paragraff 20 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff).

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â’r cod.

(4)Rhaid i’r cod ymgorffori’r hyn yr ymddengys i’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer proffesiynol gorau o ran y safonau, gweithdrefnau a’r technegau sydd i’w mabwysiadu wrth gyflawni swyddogaethau o’r math a bennir yn is-adran (2).

(5)Caiff y cod wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

(6)Cyn dyroddi’r cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddo ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(7)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol drefnu bod y cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) yn cael ei gyhoeddi.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Swyddogaethau mewn perthynas â llywodraeth leol

11Archwilio cyrff llywodraeth leol

(1)Yn lle adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru), rhodder—

13Audit of accounts of local government bodies in Wales

(1)A local government body in Wales—

(a)must make up its accounts each year to 31 March or such other date as the Welsh Ministers may generally or in any special case direct;

(b)must ensure that its accounts are audited in accordance with this Chapter.

(2)The Auditor General for Wales must audit the accounts of local government bodies in Wales..

(2)Yn adran 16 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”), hepgorer paragraff (e) o is-adran (2).

Darpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru

12Trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori

Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, yn adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)But before making an order under subsection (1), the Welsh Ministers must consult the Wales Audit Office..

RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 1SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

13Ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru

(1)Bydd corff corfforaethol o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”).

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â SAC.

14Pwerau

Caiff SAC wneud unrhyw beth (gan gynnwys caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawliau a derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall) a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

15Effeithlonrwydd

Rhaid i SAC anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol.

PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC

Cyffredinol

16Y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol

(1)Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn brif weithredwr ar SAC (ond nid yn gyflogai iddi).

(2)Mae Atodlen 2 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC.

17SAC i fonitro a darparu cyngor

(1)Rhaid i SAC, yn y modd hwnnw y mae’n ei ystyried yn briodol, fonitro sut y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau.

(2)Caiff SAC ddarparu cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw gyngor a roddir iddo.

18Dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd

(1)Caniateir i’r Archwilydd Cyffredinol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swydd honno i—

(a)cyflogai i SAC,

(b)person sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

(c)cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, yn gweithredu ar y cyd.

(2)Ond dim ond os yw’r cyflogai neu’r person arall wedi ei awdurdodi (neu, yn achos is-adran (1)(c), os yw’r ddau wedi eu hawdurdodi) i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gynllun a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo.

(3)Rhaid i gynllun ddisgrifio’r amodau y mae rhaid i ddirprwyaeth o dan is-adran (1) gael ei gwneud yn ddarostyngedig iddynt.

(4)Ni chaiff cyflogai neu berson arall ei awdurdodi o dan gynllun oni bai bod y cyflogai neu’r person yn cytuno i gydymffurfio â’r cod ymarfer archwilio a ddyroddir o dan adran 10(1).

(5)Caiff cynllun gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

(6)Caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddiwygio cynllun ar unrhyw adeg.

(7)Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â SAC.

(8)Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw, caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol gael ei harfer neu eu harfer ar y cyd gan—

(a)yr Archwilydd Cyffredinol a chyflogai i SAC,

(b)yr Archwilydd Cyffredinol a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

(c)yr Archwilydd Cyffredinol, cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

(9)Nid yw dirprwyaeth yn gwahardd yr Archwilydd Cyffredinol rhag gwneud unrhyw beth yn bersonol.

(10)Nid yw darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ar gyfer dirprwyo swyddogaeth, neu o dan is-adran (8) ar gyfer arfer swyddogaeth ar y cyd, yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Archwilydd Cyffredinol am y swyddogaeth honno.

(11)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth paratoi cynllun o dan yr adran hon.

Darparu gwasanaethau

19Darparu gwasanaethau

(1)Caniateir i drefniadau gael eu gwneud rhwng SAC ac awdurdod perthnasol ar gyfer y canlynol—

(a)bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan SAC neu gan gyflogai i SAC;

(b)bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan yr Archwilydd Cyffredinol;

(c)bod gwasanaethau technegol, proffesiynol neu weinyddol yn cael eu darparu—

(i)gan SAC i’r awdurdod, neu at ddibenion yr awdurdod,

(ii)gan yr awdurdod neu ar ei ran, i SAC, neu

(iii)gan yr awdurdod neu ar ei ran i’r Archwilydd Cyffredinol;

(d)bod gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol yn cael eu darparu gan yr Archwilydd Cyffredinol i’r awdurdod neu at ddibenion yr awdurdod.

(2)Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(b), (c)(iii) neu (d).

(3)Nid yw unrhyw drefniadau o dan is-adran (1)(a) neu (b) ar gyfer arfer swyddogaeth awdurdod perthnasol yn effeithio ar gyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol am y swyddogaeth honno.

(4)Os bodlonir yr amod yn is-adran (5), caiff SAC ac awdurdod perthnasol, archwilydd cymwysedig neu gorff cyfrifyddu wneud y canlynol—

(a)trefniadau i gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd, neu

(b)trefniadau i’r awdurdod, yr archwilydd neu’r corff a’r Archwilydd Cyffredinol gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd.

(5)Dyma’r amod—

(a)bod SAC yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer, a

(b)bod yr awdurdod perthnasol, yr archwilydd cymwysedig neu’r corff cyfrifyddu dan sylw yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r awdurdod, y person neu’r corff hwnnw, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer.

(6)Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (4)(b).

(7)Caiff SAC wneud trefniadau o dan yr adran hon ar y telerau, gan gynnwys telerau ynghylch tâl, sy’n briodol ym marn SAC.

(8)Ond rhaid i amodau ynghylch tâl i SAC gael eu gwneud yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a baratoir o dan adran 24.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff cyfrifyddu” yw corff sydd—

    (a)

    yn gorff goruchwylio cydnabyddedig at ddibenion Rhan 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu

    (b)

    yn gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;

  • ystyr “archwilydd cymwysedig” yw person sydd—

    (a)

    yn gymwys i gael ei benodi yn archwilydd statudol o dan Ran 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu

    (b)

    yn aelod o gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;

  • ystyr “corff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy” yw corff o gyfrifwyr sydd—

    (a)

    yn sefydledig yn y Deyrnas Unedig neu Wladwriaeth AEE arall, a

    (b)

    am y tro wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn;

  • ystyr “awdurdod perthnasol” yw unrhyw un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, unrhyw awdurdod cyhoeddus (gan gynnwys unrhyw awdurdod lleol) neu ddeiliad unrhyw swydd gyhoeddus.

Incwm a gwariant

20Gwariant

(1)Am bob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wneud y canlynol ar y cyd—

(a)darparu amcangyfrif o incwm a gwariant SAC, a

(b)gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Rhaid i bob amcangyfrif ymdrin (ymhlith pethau eraill) â’r adnoddau sy’n ofynnol at ddibenion adran 21 ( adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol).

(3)Rhaid i bob amcangyfrif gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymdrin â hi.

(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw newid i’r amcangyfrif y mae’n ei ystyried yn briodol (yn ddarostyngedig i is-adran (5)).

(5)Ni chaniateir gwneud newid o dan is-adran (4) heb—

(a)ymgynghori â SAC a’r Archwilydd Cyffredinol, a

(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y naill neu’r llall.

21Darparu adnoddau ar gyfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol

(1)Rhaid i SAC ddarparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol, fel sy’n ofynnol gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(2)Yn benodol, mae SAC yn gyfrifol am—

(a)cyflogi staff i gynorthwyo arfer y swyddogaethau hynny;

(b)sicrhau gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion y swyddogaethau hynny;

(c)dal eiddo at ddibenion y swyddogaethau hynny;

(d)dal dogfennau neu wybodaeth a gaffaelwyd neu a gynhyrchwyd yn ystod arfer y swyddogaethau, neu fel arall at ddibenion y swyddogaethau hynny (gweler paragraff 4(2) o Atodlen 2);

(e)cadw cofnodion mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

22Benthyg

Caiff SAC fenthyg symiau mewn sterling (ar ffurf gorddrafft neu fel arall) i’w cymhwyso at y diben o gyfarfod gorwariant dros dro dros symiau sydd ar gael i’w gyfarfod fel arall.

Ffioedd

23Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd

(1)Rhaid talu ffioedd a symiau eraill y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu cael, i SAC.

(2)Caiff SAC godi ffi mewn perthynas ag archwilio cyfrifon neu ddatganiad o gyfrifon person gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(3)Caiff SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

(a)ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan baragraff 18(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ymchwiliadau penodol i ddarbodaeth etc person wrth ddefnyddio adnoddau);

(b)ymchwiliad a gynhelir ar gais person o dan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (ymchwiliadau i ddefnydd o adnoddau) neu astudiaeth a wneir ar gais person o dan adran 145A o’r Ddeddf honno (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc mewn gwasanaethau);

(c)ymchwiliad neu astudiaeth a gynhelir neu a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol ar gais person o dan adran 46(4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995;

(d)unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu neu swyddogaethau sy’n cael eu harfer o dan adran 19.

(4)Rhaid i SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

(a)darparu gwasanaethau i gorff o dan baragraff 20 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff);

(b)astudiaeth ar gais corff addysgol o dan adran 145B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

(5)O ran ffioedd a godir o dan yr adran hon—

(a)ni chaniateir iddynt gael eu codi ond yn unol â chynllun a baratoir gan SAC o dan adran 24;

(b)ni chaiff y ffi fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi;

(c)maent yn daladwy i SAC gan y person y mae’r swyddogaeth a arferir yn ymwneud ag ef.

24Cynllun ar gyfer codi ffioedd

(1)Rhaid i SAC baratoi cynllun sy’n ymwneud â chodi ffioedd gan SAC.

(2)Rhaid i’r cynllun gynnwys y canlynol—

(a)rhestr o’r deddfiadau y caiff SAC godi ffi odanynt;

(b)pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, y raddfa honno neu’r graddfeydd hynny;

(c)pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi swm i’w godi, y swm hwnnw;

(d)pan nad oes darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, na rhagnodi swm, y modd y bydd SAC yn cyfrifo’r ffi a godir.

(3)Caiff y cynllun wneud y canlynol ymysg pethau eraill—

(a)cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, a

(b)darparu ar gyfer yr adegau a’r modd y bydd taliadau yn cael eu gwneud.

(4)O ran y cynllun—

(a)rhaid i SAC ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr,

(b)caiff SAC ei ddiwygio neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg, ac

(c)rhaid i SAC ei osod (a gosod unrhyw ddiwygiad iddo) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd o dan—

(a)adran 64F o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd am baru data), neu

(b)adran 27A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioedd),

i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan SAC, rhaid i SAC ddiwygio’r cynllun i gynnwys y raddfa neu’r graddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru yn lle’r rhai a ragnodwyd gan SAC.

(6)Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol os mai diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5) yw’r unig ddiwygiad i gynllun.

(7)Bydd y cynllun yn cael effaith pan fydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn achos diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5), unwaith y bydd wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad.

(8)Rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun (ac unrhyw ddiwygiad iddo) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi iddo gael effaith.

Cynllun blynyddol

25Cynllun blynyddol

(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC baratoi cynllun blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi’r canlynol—

(a)rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol;

(b)rhaglen waith SAC;

(c)yr adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, i SAC;

(d)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol;

(e)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen SAC;

(f)yr uchafswm, allan o’r o adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, y rhagwelir y bydd SAC yn dyrannu i’r Archwilydd Cyffredinol at y diben o ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol.

(3)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol” yw blaenoriaethau’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau;

  • ystyr “rhaglen waith SAC” yw blaenoriaethau SAC ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

26Cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC osod y cynllun blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

27Cynllun blynyddol: effaith

Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol a SAC i gael eu rhwymo gan y cynllun blynyddol, ond rhaid iddynt roi sylw iddo wrth arfer eu swyddogaethau, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol gan SAC o dan adran 21 (ond nid yn gyfyngedig i hynny).

RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

28Swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol

(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy reolau sefydlog, wneud darpariaeth ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Ddeddf hon.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn cynnwys dirprwyo swyddogaethau i’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, i bwyllgor neu is-bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol neu i gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r fath (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys i swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 30 (gorchmynion).

29Indemnio

(1)Mae unrhyw swm sy’n daladwy gan berson sydd wedi ei indemnio o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd am dor-dyletswydd i’w godi ar a’i dalu o Gronfa Gyfunol Cymru.

(2)Rhaid i’r atebolrwydd beidio â bod i berson arall sydd wedi ei indemnio.

(3)Mae’r canlynol yn bersonau wedi eu hindemnio—

(a)Archwilydd Cyffredinol, neu gyn-Archwilydd, a benodwyd o dan y Ddeddf hon;

(b)SAC;

(c)cyn-aelod neu aelod presennol o SAC;

(d)cyn-gyflogai neu gyflogai presennol i SAC;

(e)person sy’n darparu, neu sydd wedi darparu, gwasanaethau i’r Archwilydd Cyffredinol neu i SAC o dan drefniadau a wnaed gan SAC.

(4)Ystyr tor-dyletswydd at ddibenion is-adran (1) yw tor-dyletswydd (p’un ai o dan gontract neu gytundeb neu fel arall, a ph’un ai oherwydd gweithred neu anweithred) yr aed iddi gan berson sydd wedi ei indemnio wrth arfer swyddogaethau sydd i’w harfer gan y person hwnnw yn unol â darpariaeth o ddeddfiad.

30Gorchmynion

(1)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol etc) sy’n cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddeddfiad (ac eithrio deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth) neu offeryn uchelfreiniol onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn o dan y Ddeddf hon, ac eithrio offeryn sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 35 (cychwyn) yn unig, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon (ar wahân i orchymyn o dan adran 35 (cychwyn)) yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, neu at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n angenrheidiol neu yn briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

31Cyfarwyddiadau

(1)O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid ei roi yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(c)caiff wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

(d)caiff wneud darpariaeth wahanol at achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, neu at ddibenion gwahanol.

(2)Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar bwerau o dan y Ddeddf hon i roi cyfarwyddiadau.

32Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “Archwilydd Cyffredinol” (“Auditor General”) yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 1);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae i “corff llywodraeth leol” (“local government body”) yr ystyr a roddir yn adran 12 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;

  • ystyr “Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly Commission”) yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed, yn cynnwys—

    (a)

    deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon, yn unrhyw Ddeddf arall gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu yn unrhyw Fesur Cynulliad, a

    (b)

    is-ddeddfwriaeth (yn ystyr Deddf Dehongli 1978) p’un a yw wedi ei wneud o dan Ddeddf Cynulliad, neu Fesur Cynulliad neu fel arall;

  • ystyr “Llywodraeth Cymru” (“Welsh Government”) yw Llywodraeth Cynulliad Cymru;

  • ystyr “SAC” (“WAO”) yw Swyddfa Archwilio Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 2).

33Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc

(1)Mae Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol etc) yn cael effaith.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n briodol yn eu barn hwy mewn cysylltiad â’r Ddeddf hon neu i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon.

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2) yn cynnwys, ymysg pethau eraill, diwygiadau i, neu ddiddymiadau a dirymiadau o, unrhyw ddeddfiad neu offeryn uchelfreiniol.

(4)Nid oes dim yn Atodlen 3 yn cyfyngu ar y pŵer a roddir gan is-adran (2); a chaiff gorchymyn o’r fath, ymysg pethau eraill, wneud addasiadau i’r Atodlen honno.

34Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

35Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 30;

(b)yr adran hon;

(c)adran 36.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (1), daw’r Ddeddf hon i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)cynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n ymwneud â chychwyn.

36Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.