Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Valid from 28/11/2013

8Ceisiadau am wybodaeth am sgoriau hylendid bwydLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd sicrhau bod pob cyflogai perthnasol yn ymwybodol o sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

(2)Rhaid i’r gweithredwr ac unrhyw gyflogai perthnasol gydymffurfio â chais a gyfeirir atynt gan berson i gael ei hysbysu ar lafar am sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cyflogai perthnasol” yw rhywun sydd—

(a)yn cael ei gyflogi yn y sefydliad, a

(b)yn debygol, ym marn y gweithredwr, o fod yn wrthrych cais i hysbysu person ar lafar am sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)