xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Pan fydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd y sefydliad, rhaid i’r gweithredwr arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd a ddarparir.
(2)Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys—
(a)hyd nes y bydd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl wedi dirwyn i ben, neu
(b)os yw apêl wedi ei gwneud, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad.
(3)Rhaid i’r sticer gael ei arddangos yn y man a’r modd a ragnodir.
(4)Caiff rheoliadau sy’n rhagnodi’r man a’r modd priodol ar gyfer arddangos sticer wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad (gan gynnwys darpariaeth ynghylch arddangos sticer mewn mwy nag un man).
(5)Bydd y sticer yn peidio â bod yn ddilys pan fydd sgôr hylendid bwyd y sefydliad yn peidio â bod yn ddilys.
(6)Os bydd sticer sefydliad yn peidio â bod yn ddilys, rhaid i’r gweithredwr ei dynnu o’r man lle y mae’n cael ei arddangos a’i ddistrywio (oni chaiff ei gyfarwyddo i beidio â’i ddistrywio gan swyddog awdurdodedig).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)
I2A. 7(1)(2)(5)(6) mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(e)
I3A. 7(3)(4) mewn grym ar 28.10.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2617, ergl. 2(d)
I4A. 7(3)(4) mewn grym ar 28.11.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(e)