Hysbysu’r cyhoedd am sgoriau hylendid bwyd
7Y gofyniad i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd
(1)
Pan fydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd y sefydliad, rhaid i’r gweithredwr arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd a ddarparir.
(2)
Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys—
(a)
hyd nes y bydd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl wedi dirwyn i ben, neu
(b)
os yw apêl wedi ei gwneud, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad.
(3)
Rhaid i’r sticer gael ei arddangos yn y man a’r modd a ragnodir.
(4)
Caiff rheoliadau sy’n rhagnodi’r man a’r modd priodol ar gyfer arddangos sticer wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad (gan gynnwys darpariaeth ynghylch arddangos sticer mewn mwy nag un man).
(5)
Bydd y sticer yn peidio â bod yn ddilys pan fydd sgôr hylendid bwyd y sefydliad yn peidio â bod yn ddilys.
(6)
Os bydd sticer sefydliad yn peidio â bod yn ddilys, rhaid i’r gweithredwr ei dynnu o’r man lle y mae’n cael ei arddangos a’i ddistrywio (oni chaiff ei gyfarwyddo i beidio â’i ddistrywio gan swyddog awdurdodedig).