Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Valid from 28/10/2013

6Hysbysu am sgoriau hylendid bwyd a’u cyhoeddiLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r ASB am sgôr hylendid bwyd sefydliad busnes bwyd o fewn y cyfnod perthnasol.

(2)Wrth hysbysu'r ASB rhaid i awdurdod bwyd ddarparu i’r ASB hefyd unrhyw wybodaeth bellach a ragnodir.

(3)Rhaid i’r ASB gyhoeddi’r sgôr hylendid bwyd ac unrhyw wybodaeth arall a ragnodir ar ei gwefan cyn pen 7 o ddiwrnodau ar ôl cael ei hysbysu o dan is-adran (1).

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod perthnasol”—

(a)os nad oes apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd, yw 49 o ddiwrnodau o’r dyddiad y bydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd yn cael hysbysiad am y sgôr hylendid bwyd;

(b)os gwneir apêl, yw 28 o ddiwrnodau o ddyddiad penderfynu’r apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)