xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i’r meini prawf sgorio gynnwys system i sgorio safonau hylendid sefydliad busnes bwyd.
(2)Rhaid i’r system sgorio gynnwys darpariaethau sydd wedi eu seilio ar yr agweddau canlynol ar y sefydliad—
(a)ei arferion trin bwyd (gan gynnwys rheoli tymheredd);
(b)ei amgylchedd ffisegol (gan gynnwys ei gynllun, ei lendid a’i gyflwr);
(c)ei reolaeth;
(d)ei weithdrefnau ar gyfer cadw trefn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)
I2A. 4 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(d)