Arolygiadau a sgoriau hylendid bwyd

3Sgoriau hylendid bwyd

(1)

Pan fo sefydliad busnes bwyd wedi ei arolygu yn unol ag adran 2, rhaid i awdurdod bwyd asesu safonau hylendid bwyd y sefydliad a chynhyrchu sgôr (“sgôr hylendid bwyd”) ar gyfer y sefydliad hwnnw sydd wedi ei sgorio yn erbyn meini prawf a osodir gan yr ASB (y “meini prawf sgorio”).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod sgôr hylendid bwyd i’w seilio ar asesiad o safonau hylendid bwyd sefydliad a wnaed cyn i’r Ddeddf hon gael ei chychwyn.

(3)

Cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl arolygiad , rhaid i awdurdod bwyd anfon at weithredwr y sefydliad—

(a)

hysbysiad ysgrifenedig am sgôr hylendid bwyd y sefydliad;

(b)

datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;

(c)

sticer sgôr hylendid bwyd ar ffurf a ragnodir;

(d)

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(4)

Mae sgôr hylendid bwyd yn peidio â bod yn ddilys yn yr achosion a ganlyn—

(a)

pan fo gweithredwr sefydliad wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd newydd a—

(i)

bod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd newydd wedi dirwyn i ben, neu

(ii)

os oes apêl wedi ei gwneud, bod yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad;

(b)

pan fo perchenogaeth ar sefydliad wedi ei throsglwyddo neu fod y sefydliad wedi peidio â masnachu.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi bod categorïau penodol o sefydliad yn cael bod yn esempt rhag cael eu sgorio.