Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

26RheoliadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae pwerau i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Yn achos y pŵerau o dan adrannau 2(6), 3(2) a 3(5) mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio’r Ddeddf hon.

(4)Ni chaniateir i Reoliadau o dan adrannau 2(6), 3(2), 3(5), 5(8), 6(2), 10, 24 a pharagraff 3 o’r Atodlen gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Mae rheoliadau eraill a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w diddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2A. 26 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)