xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwerau a chyfrifoldebauLL+C

16Cyfrifoldebau eraill gweithredwyr sefydliadau busnes bwydLL+C

Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd—

(a)darparu unrhyw wybodaeth y mae angen rhesymol amdani ar awdurdod bwyd i’w alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ar gyfer y sefydliad;

(b)fel arall rhoi pob cymorth rhesymol i awdurdod bwyd er mwyn ei alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ac arfer ei swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2A. 16 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)