Pwerau a chyfrifoldebau

14Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd

(1)

Rhaid i’r ASB—

(a)

wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i’r canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;

(b)

cyhoeddi’r materion y mae rhaid i awdurdod bwyd roi sylw iddynt wrth lunio ac adolygu rhaglen arolygu o dan adran 2 (pan fo’r materion hynny wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru;

(c)

cyhoeddi’r meini prawf sgorio a ddefnyddir i roi sgôr hylendid bwyd o dan adran 3;

(d)

ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn cychwyn, a phob cyfnod dilynol o 1 flwyddyn, gynnal adolygiad o weithrediad y system apelau a sefydlir o dan adran 5 yn ystod y cyfnod hwnnw;

(e)

ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn dechrau, a phob cyfnod dilynol o 3 blynedd, adolygu fel arall sut y rhoddwyd ar waith y cynllun sgorio bwyd a sefydlwyd o dan y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw a sut y bu iddo gael ei weithredu;

(f)

gwneud argymhellion i awdurdodau bwyd i’w cynorthwyo i gydymffurfio â’u cyfrifoldebau o dan y cynllun;

(g)

hybu’r cynllun i sefydliadau busnes bwyd a defnyddwyr yng Nghymru;

(h)

darparu sticeri sgôr hylendid bwyd ar y ffurf ragnodedig i awdurdodau bwyd yn ddi-dâl.

(2)

Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(d) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbon Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—

(a)

manylion am yr adolygiad a ymgymerwyd ag ef;

(b)

yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r system apelau y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.

(3)

Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(e) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—

(a)

manylion am yr adolygiad yr ymgymerwyd ag ef;

(b)

yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r cynllun sgorio hylendid bwyd y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.

(4)

Rhaid i’r ASB anfon copi o bob adroddiad a lunnir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.