Valid from 28/11/2013
13Talu costau ailsgoriadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os yw cais am ailsgoriad wedi ei wneud gan weithredwr sefydliad busnes bwyd, rhaid i awdurdod bwyd benderfynu costau rhesymol yr ailsgoriad.
(2)Cyn gwneud yr ailsgoriad, rhaid i’r awdurdod bwyd hysbysu’r gweithredwr am gostau’r ailsgoriad ac am y ffordd y cafodd y costau eu cyfrifo.
(3)Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd dalu costau yr ailsgoriad.
(4)Caiff awdurdod bwyd ei gwneud yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud cyn bod yr ailsgoriad yn cael ei wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)