(1)Rhaid i awdurdod bwyd roi cyfle i weithredwr sefydliad busnes bwyd i roi sylwadaethau ar sgôr hylendid bwyd y sefydliad.
(2)Rhaid i unrhyw sylwadaethau o’r fath gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig a chaniateir eu cyflwyno i awdurdod bwyd ar unrhyw adeg tra bo’r sgôr yn ddilys, p’un a yw apêl wedi ei gwneud o dan adran 5 ai peidio.
(3)Rhaid i awdurdod bwyd anfon unrhyw sylwadaethau o’r fath ymlaen at yr ASB a gaiff gyhoeddi’r sylwadaethau ar ei gwefan ynghyd â’r sgôr hylendid bwyd y mae’r sylwadaethau yn ymwneud â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)
I2A. 11 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(f)