10Hyrwyddo sgoriau hylendid bwydLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch hyrwyddo sgôr hylendid bwyd sefydliad busnes bwyd—
(a)gan weithredwr y sefydliad;
(b)gan berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr.
(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, osod dyletswyddau ar weithredwr mewn perthynas â’r canlynol—
(a)rhoi cyhoeddusrwydd i’r sgôr yn electronig;
(b)rhoi cyhoeddusrwydd i’r sgôr mewn deunydd sy’n hyrwyddo’r bwyd a ddarperir gan y sefydliad.
(3)Caiff y rheoliadau hefyd—
(a)creu trosedd;
(b)gosod cosb (gan gynnwys cosb benodedig);
(c)gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi;
(d)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad.
(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at sgôr hylendid bwyd sefydliad yn cynnwys cyfeiriad at sgôr a ddarperir yn rhinwedd adran 12 (ailsgoriadau hylendid bwyd).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)
I2A. 10 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(f)