xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLENLL+CHYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

RHAN 2LL+CFFURF A CHYNNWYS HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

10LL+CRhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod yr oedd y swyddog awdurdodedig yn gweithredu ar ei ran pan roddodd y swyddog yr hysbysiad;

(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(c)swm y gosb ostyngol a’r cyfnod y mae’r gostyngiad yn gymwys iddo;

(d)canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(e)y person y caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu;

(f)drwy ba ddull y caniateir talu;

(g)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir eu cyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2Atod. para. 10 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)