xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Amrywiol a chyffredinolLL+C

23CanllawiauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—

(a)i’r ASB;

(b)i awdurdod bwyd,

mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2A. 23 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

24Diwygio cyfnodau i gydymffurfio â dyletswyddauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n pennu cyfnod pryd y mae’n rhaid gwneud rhywbeth drwy roi cyfnod arall yn ei le.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I4A. 24 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

25DehongliLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at sticer sgôr hylendid bwyd yn cynnwys, pan fo’r cyd-destun yn mynnu hynny, cyfeiriad at fwy nag un sticer.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I6A. 25 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

26RheoliadauLL+C

(1)Mae pwerau i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Yn achos y pŵerau o dan adrannau 2(6), 3(2) a 3(5) mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio’r Ddeddf hon.

(4)Ni chaniateir i Reoliadau o dan adrannau 2(6), 3(2), 3(5), 5(8), 6(2), 10, 24 a pharagraff 3 o’r Atodlen gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Mae rheoliadau eraill a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w diddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I8A. 26 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

27CychwynLL+C

(1)Mae’r adran hon yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn i’w wneud gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon—

(a)bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys diwrnodau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o sefydliad busnes bwyd);

(b)gynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth darfodol, neu ddarpariaeth arbed y gwêl Gweinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu hwylus.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 27 mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 27(1)

28Enw ByrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I11A. 28 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(k)