RHAN 4CYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG

85Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg

(1)

Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi llunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

cymeradwyo’r cynllun fel y’i cyflwynwyd,

(b)

cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau, neu

(c)

gwrthod y cynllun a llunio cynllun arall sydd i’w drin fel cynllun cymeradwy’r awdurdod.

(3)

Os yw awdurdod lleol yn dymuno diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun diwygiedig, gydag addasiadau neu hebddynt.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod lleol cyn—

(a)

addasu cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(b),

(b)

llunio cynllun arall i gymryd lle cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(c), neu

(c)

addasu cynllun diwygiedig yr awdurdod o dan is-adran (4).

(6)

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.

(7)

Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.