RHAN 4CYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG

84Llunio cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg

(1)

Cynllun yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg sy’n cynnwys—

(a)

cynigion awdurdod lleol ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg er mwyn—

(i)

gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (“addysg cyfrwng Cymraeg”) yn cael ei darparu yn ei ardal;

(ii)

gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(b)

targedau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau’r addysg honno ac addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(c)

adroddiad ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ar gyfer ei ardal.

(3)

Rhaid i awdurdod lleol gadw golwg ar ei gynllun, ac os yw’n angenrheidiol, ei ddiwygio.

(4)

Wrth lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg neu gynllun diwygiedig, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)

ei awdurdodau lleol cyfagos;

(b)

pennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo;

(c)

corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo;

(d)

pob sefydliad o fewn y sector addysg bellach yn ei ardal;

(e)

mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—

(i)

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(f)

personau rhagnodedig eraill.

(5)

Os yw awdurdod lleol yn cynnal asesiad o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â rheoliadau o dan adran 86, rhaid iddo ystyried canlyniadau’r asesiad hwnnw y tro nesaf y bydd yn llunio neu’n diwygio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg.