Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

83Dehongli Rhan 3LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “pwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion” (“powers to make proposals to establish, alter or discontinue schools”) yw’r cyfan neu unrhyw rai o bwerau awdurdod lleol i wneud cynigion o dan adran 41, 42, 43 neu 44;

  • ystyr “pwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol” (“powers to make proposals to alter its school”), mewn perthynas â chorff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol, yw ei bwerau i wneud cynigion o dan adran 42(2).

(2)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gategori ysgol yn golygu un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ac mae cyfeiriadau at newid categori i’w darllen yn unol â hynny).

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 83 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag ergl. 4)