Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

82Gorchmynion esemptio trosiannol at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion bod ysgol yn peidio â bod yn ysgol un rhyw.

(2)Mae gwneud cynigion o’r fath o dan adran 59, 68 neu 71 i’w drin fel cais gan y corff sy’n gyfrifol i Weinidogion Cymru am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf 2010, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon—

  • mae i “y corff sy’n gyfrifol” yr un ystyr â (“the responsible body”) yn adran 85 o Ddeddf 2010;

  • ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;

  • mae i “gorchymyn esemptio trosiannol” yr un ystyr â (“transitional exemption order”) ym mharagraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2010;

  • mae “gwneud”(“make”), mewn perthynas â gorchymyn esemptio trosiannol, yn cynnwys amrywio neu ddirymu;

  • mae i “ysgol un rhyw” yr un ystyr â (“single-sex school”) ym mharagraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 82 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(e) (ynghyd ag ergl. 4)