Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Valid from 01/10/2013

81Cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynuLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i derfynu ysgol arbennig gymunedol a gynhelir ganddo ar ddiwrnod penodedig, os ydynt yn credu ei bod yn hwylus gwneud hynny er iechyd, diogelwch neu les disgyblion yn yr ysgol.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol hysbysu personau penodedig neu ddosbarth penodedig ar bersonau.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)unrhyw awdurdod lleol arall y byddai terfynu’r ysgol yn effeithio arno yn eu barn hwy, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.

(5)Rhaid i awdurdod lleol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)Nid oes dim yn adran 44 sy’n gymwys i derfynu ysgol o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)